Wedi dymchwel dau Gapel Cymraeg Birmingham, adeiladwyd ac agorwyd Bethel, yr achos presennol yn 1968.  Mae tri gweinidog wedi gwasanaethu’r capel newydd dros y blynyddoedd, sef y diweddar Barchedig Arthur Wynne Edwards, y diweddar Barchedig G Tudor Owen a’r Parchedig Robert Parry.  Nid oes gan Fethel weinidog ar hyn o bryd. Cynhelir y gwasanaethau yn y Gymraeg gyda ambell i wasanaeth dwyieithog.  Mae croeso i bawb i ymuno â ni yn ein haddoliad.